Cyngor Cymuned Lledrod Community Council
Mae Cyngor Cymuned Lledrod yn cynnwys pentrefi Bronant, Lledrod, Blaenpennal a Bontnewydd ac yn cynnwys tua 500 o etholwyr. Mae 2 ward, sef Ward Lledrod Isaf sydd â 5 cynghorydd ac yna Ward Blaenpennal sydd â 4 cynghorydd.
Mae'r Cyngor yn cyfarfod ar y 3ydd nos Lun bob mis, ar wahân i fis Awst yn Festri Bronant. Cynhelir y Cyfarfod Blynyddol ym mis Ebrill pryd yr etholir Cadeirydd ac Is-gadeirydd am ddwy flynedd. Hefyd etholir Swyddog Ariannol Cyfrifol a phenodir Archwiliwr Allanol.
Derbynia'r Cyngor swm blynyddol o £3,250 oddi wrth y cwmni sy'n gyfrifol am y twrbeini gwynt o fewn ffiniau'r Cyngor ac fe ddosberthir yr arian yn flynyddol at achosion da neu at welliannau o fewn ardal y Cyngor.
Prif gyfrifoldebau'r Cyngor yw mynegi barn ar geisiadau cynllunio, cadw golwg ar gyflwr ffyrdd yr ardal a thynnu sylw'r Cyngor Sir at unrhyw ddiffygion neu angen, sicrhau bod goleuadau stryd yr ardal yn gweithio, ac yna ymateb i unrhyw adroddiadau gan y Cyngor Sir, yr Awdurdod Heddlu ac ati.
Maen gan y Cyngor glerc sydd yn cael ei chyflogi'n rhan-amser i weithredu penderfyniadau'r Cyngor. Mae'r Cyngor hefyd yn penderfynu ar y praesept blynyddol, sef y dreth leol a godir ar bob ty yn yr ardal - £2,321.00.
Mae'r Cyngor yn aelod o Un Llais Cymru a'r Cadeirydd yn mynychu'r gynhadledd flynyddol a chyfarfodydd eraill.
View Cymgor Cymuned Lledrod Community Council in a larger map
Mae'r Cyngor yn cyfarfod ar y 3ydd nos Lun bob mis, ar wahân i fis Awst yn Festri Bronant, am 8.00 o'r gloch.
Mae'r cyfarfodydd yn agored i bawb. Cysylltwch â'r Clerc i gadarnhau amser.